Gwyrdd Lincoln
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | lliw ![]() |
---|
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c8/Robin_shoots_with_sir_Guy_by_Louis_Rhead_1912.png/220px-Robin_shoots_with_sir_Guy_by_Louis_Rhead_1912.png)
Lliw gwyrdd sy'n gysylltiedig â choedwigwyr Gogledd Lloegr, a chwedl Robin Hwd yn enwedig, yw gwyrdd Lincoln. Yn hanesyddol cafodd brethyn o'r lliw hwn ei gynhyrchu yn nhref Lincoln[1] ac mae'r term yn dyddio o'r 16g.[2] Heddiw mae'n disgrifio gwyrdd yr olewydd[3] gydag arlliw melyn neu frown[2] sydd yn felynach ac yn fwy gwelw na gwyrdd y goedwig, yn felynach ac yn oleuach ond hefyd yn gryfach na gwyrdd cypresol, ac yn fymryn mwy pŵl na gwyrdd y celyn.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Lincoln green. Oxford Dictionaries. Adalwyd ar 31 Hydref 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Lincoln green. Collins English Dictionary. Adalwyd ar 31 Hydref 2013.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Lincoln green. Merriam-Webster. Adalwyd ar 31 Hydref 2013.